Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 10 Gorffennaf 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Gwyn R Price Jenny Rathbone Aled Roberts Lindsay Whittle |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Dame Gillian Morgan, Permanent Secretary, Welsh Government James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Director General BETS Arwel Thomas, Head of Coroporate Governance David Richards, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Ystyried yr adroddiad drafft 'Rheoli Grantiau yng Nghymru'
1.1 Nododd y Pwyllgor ei fod wedi cytuno yn ei gyfarfod diwethaf, ar 3 Gorffennaf 2012, i ddechrau’r cyfarfod hwn yn breifat.
1.2 Trafododd y Pwyllgor y newidiadau i’w adroddiad drafft ‘Rheoli Grantiau yng Nghymru’ a chytunodd arnynt.
2. Trafod yr adroddiad drafft 'Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru'
2.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’ a chytunodd i’w ystyried ymhellach yn ei gyfarfod ar 17 Gorffennaf 2012.
3. Paratoi ar gyfer tystiolaeth Llywodraeth Cymru ar broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen
3.1 Trafododd y Pwyllgor y ffordd y mae’n bwriadu ymdrin â’r sesiwn dystiolaeth ddilynol (eitem 5) ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen’.
4. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
4.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau o’r cyhoedd i’r cyfarfod.
5. Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
5.1 Croesawodd y Cadeirydd y Fonesig Gillian Morgan, Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru; James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Busnes, Menter Technoleg a Gwyddoniaeth; Arwel Thomas, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-adran Llywodraethu Corfforaethol a Sicrwydd; a David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu.
5.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.
Pwyntiau gweithredu:
Mewn ymateb i’r cwestiynau, cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:
· Manylion ar p’un a fyddai uwch reolwyr Llywodraeth Cymru sy’n uwch na lefel ranbarthol wedi bod yn bresennol ar gyfer sesiynau briffio’r cyn Weinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau ynghylch cynigion i brynu gwesty River Lodge.
· Nodyn ynghylch a oes dyddiad cau wedi’i bennu i waredu hen westy River Lodge.
· Nodyn ynghylch y cynnydd ar gyfer gwerthuso ceisiadau ar ddefnyddio’r safle, gan gynnwys manylion am unrhyw amodau ar adeiladu llwybr troed ar y safle.
· Rhagor o fanylion am Dîm Arweinyddiaeth Eiddo Llywodraeth Cymru.
· Manylion am sut y gwnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru yn y gogledd ymdrin â phryderon a godwyd gan Aelod Cynulliad lleol mewn llythyr i’r Gweinidog ynglŷn â chaffael gwesty River Lodge.
6. Papurau i'w nodi
7. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Trawsgrifiad